Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

William Vachell a'i Dŷ Dirgel

101-11-pic-Sketch-Bryn-Glas-Map-William-Vachell.jpg

Roedd William Vachell (a aned yn 1796) yn aelod blaenllaw o gwmni teuluol adnabyddus o fferyllwyr yng Nghaerdydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd ei dad yn llawfeddyg llongau yn ystod rhyfeloedd Chwyldro Ffrainc a daeth ei frawd Charles (a'i gyd-fferyllydd) yn Faer a datblygodd dai yn Heol Charles (a enwyd i anrhydeddu eu tad).

Ffynnodd y teulu gyda William a Charles yn rhedeg y cwmni.  Priododd William yn 1813 â Mellicent Thomas ac fe gawsant 5 o blant. Yn anffodus, bu farw Mellicent a 4 o'r plant, a dim ond Frederick Charles yn goroesi. Priododd William eilwaith a chafodd fab arall.  Yn anffodus, bu farw ei wraig newydd a'i fab newydd hefyd.

Fel llawer o foneddigion y cyfnod hwnnw, penderfynodd William ymddeol o fyd busnes a symud i'r wlad. Fe’i gwelwn gyntaf yn 1841, yn byw ar Fferm Waun-Treoda (yn ddiweddarach dan yr enw Flays Farm) ac yn gosod yr holl dir fferm ar ddwy ochr i Heol Merthyr i denantiaid. Bryd hynny nid oedd tai ar Waun Treoda, dim ond y ffermdy, ei ysgubor, Capel Ararat, a chaeau agored ar y ddwy ochr i’r ffordd.

10 mlynedd yn ddiweddarach, gwelwn William yng nghyfrifiad 1851, yn 62 oed ac yn dal i fyw yn yr Eglwys Newydd, wedi ei nodi o ran ei swydd fel ‘fferyllydd wedi ymddeol'. Roedd yn byw gyda'i fab 23 oed Frederick Charles, morwyn tŷ a 2 o weision eraill mewn tŷ ar y Ffilog yn Is-adran Dwyrain y plwyf, yn ôl pob golwg gyferbyn â'r fferm. Ac roedd tenant gwahanol yn y tŷ fferm!

Felly, ymhle'r oedd yn byw os nad oedd tai eraill?

Tua'r adeg hon, ar ochr ogleddol Heol Merthyr adeiladwyd tŷ mawr unigol o'r enw Bryn Glas. Dangosir hwn ar fap AO 1880 wedi'i osod yn ôl o'r ffordd gyda thramwyfa ysgubol. Mae'r braslun isod yn rhoi blas o sut y gallai Bryn Glas fod wedi edrych ym 1851, gyda'i dramwyfa gerbydau goediog a gerddi blaen wedi'u tirlunio. Mae'n ymddangos bod digon o le o gwmpas y tŷ ar gyfer yr ardd bleser a oedd i ddilyn. A godwyd Bryn Glas gan William Vachell fel ei gartref yn y cyfrifiad? Nid yw'n ymddangos bod unrhyw dai addas eraill.

Erbyn 1880, o boptu’r tŷ roedd tai teras, ond 30 mlynedd yn gynharach safai’n ysblennydd ar ei ben ei hun. Mae Bryn Glas bellach wedi'i ddymchwel ac mae'r safle bellach wedi ei feddiannu gan fflatiau Retford Court. A yw rhai o'r coed mawr yn y maes parcio wedi goroesi o’r hen Fryn Glas?

Erbyn y cyfrifiad yn 1861, roedd William Bedlington peiriannydd o Durham yn byw yn y tŷ gyda'i deulu a dim arwydd o William Vachell, a dim arwydd chwaith o'r gerddi helaeth. Efallai fod y tŷ wedi dod i ddwylo William Bedlington; roedd ei deulu yn dal i fyw yno ym 1891.

Felly, beth ddaeth o William Vachell a'i fab Frederick Charles?  Ymddengys i William farw ym 1860, cyn iddo gael cyfle i fwynhau'r tŷ, ac aeth ei fab ymlaen i bethau mwy a mwy. Mwy amdano ef dro arall.

Oes unrhyw un yn gwybod mwy am William Vachell, ei deulu neu am Fryn Glas?